Rwy'n cael problemau technegol gyda'r Gwiriwr Cryfder

Os nad yw'n ymddangos bod y Gwiriwr Cryfder MWGCh yn gweithio i chi - er enghraifft os nad yw'r llithryddion yn symud, neu os nad yw'n ymddangos bod y bar llywio ar y brig yn gwneud unrhyw beth - mae yna ychydig o bethau y gallwch chi eu gwirio.

  1. Os ydych chi'n defnyddio Windows, a ydych chi'n defnyddio porwr modern, diweddar? Mae'r Gwiriwr Cryfder MWGCh yn cefnogi Internet Explorer 9 ac uwch, Edge, Firefox, Chrome, Safari ac Opera.
  2. Oes gennych chi javascript? Mae angen javascript ar y Gwiriwr Cryfder MWGCh er mwyn iddo weithio'n iawn. Mae Javascript yn cael ei alluogi'n awtomatig ar gyfer pob porwr mawr felly os oes gennych o ar eich cyfrifiadur mae'n debyg eich bod chi'n gwybod amdano.
  3. Ydych chi ar ddyfais symudol? Dylai'r Gwiriwr Cryfder MWGCh weithio ar Android ac iOS (iPad neu iPhone) ac mae'n gydnaws â chyffyrddiad. Ni fydd yn gweithio ar Blackberry ac nid yw wedi cael ei brofi ar fathau eraill o ddyfais symudol. Os ydych chi'n cael problemau ar ddyfais symudol benodol, rhowch wybod i ni gan ddefnyddio'r ffurflen gymorth.