Ar ôl i chi gwblhau eich adroddiad Gwiriwr Cryfder efallai y byddwch am gychwyn ar ychydig o waith i fanteisio ar eich cryfderau a rhoi hwb i feysydd eraill o'ch galluoedd sefydliadol.
I wneud hyn efallai y bydd angen rhywfaint o gefnogaeth ffurfiol a/neu anffurfiol arnoch gan gyfoedion a/neu arbenigwyr. Mae yna nifer o gynlluniau cenedlaethol a lleol wedi'u cynllunio i gefnogi'r sector. Rydym wedi rhestru rhai isod, er nad yw hon yn rhestr gynhwysfawr.
Cefnogaeth ac arweiniad ynghylch adeiladu gallu a buddsoddi cymdeithasol
- Eich Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol lleol trwy'r National Association for Voluntary and Community Action (NAVCA)
- Eich Cyngor Cymuned Wledig lleol trwy Action with Communities in Rural England (ACRE)
- Mudiadau cymorth menter gymdeithasol fel Social Enterprise UK (SEUK)
- Ymgynghoriaethau unigol lleol a mudiadau ag arbenigedd arbenigol sy'n hysbysebu ar lwyfannau darparwyr fel:
- Management Development Network
- The National Council for Voluntary Organisations (NCVO)
- The Directory of Social Change
- Pilotlight
- Cranfield Trust
- The Foundation for Social Improvement (FSI)
Ffynonellau ariannu
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn rhedeg nifer o raglenni ariannu, gan gynnwys y rhai a all helpu i baratoi MWGChau i ddod yn “barod ar gyfer buddsoddi”. Gweler ein rhaglenni ariannu yma.