Canllaw Ddefnyddwyr

Darllenwch y nodiadau canlynol er mwyn cael y budd mwyaf o'r Gwiriwr Cryfder MWGCh.

Mae'r Gwiriwr Cryfder wedi'i ddylunio i'ch helpu i gynllunio eich dyfodol hir dymor a diogelu'r gwasanaethau rydych chi'n eu darparu i'ch buddiolwr.

Bydd yn cymryd tua 40 munud i'w gwblhau (gallwch arbed eich atebion a dychwelyd iddynt nes ymlaen) a gellir eu defnyddio gan unrhyw fath neu faint o fudiad MWGCh. Mae'r broses o ystyried eich dyfodol, eich cryfderau a'ch meysydd datblygu, a datblygu cynllunio tymor byr a thymor hir, yn hanfodol i'ch mudiad a gobeithiwn y bydd cwblhau'r Gwiriwr Cryfder yn eich helpu.

Er mwyn defnyddio'r Gwiriwr Cryfder bydd angen i chi  gofrestru  ar y wefan. Mae hyn yn gofyn am gyfeiriad e-bost dilys i gwblhau cofrestriad.

I gael y gorau o'r adolygiad hwn:

  • Ymatebwch yn agored ac yn onest i'r cwestiynau.
  • Ystyriwch cwblhau'r cwestiynau fel tîm rheoli. Bydd gweithio trwy'r cwestiynau hyn yn cymryd ychydig mwy o amser os byddwch chi'n ei drafod gyda chydweithwyr, ond byddwch chi'n dysgu mwy am eich mudiad a beth mae eraill yn ei feddwl.
  • Meddyliwch am ddefnyddio “ffrind beirniadol” allanol i'ch helpu chi i herio'ch hun.

Sicrhewch fod gennych y ddogfennaeth ganlynol wrth law:

Rhai awgrymiadau ar sut i ddefnyddio'r Gwiriwr Cryfder

  • Gallwch hepgor cwestiwn a dychwelyd ato nes ymlaen.
  • Gallwch newid eich atebion ar unrhyw adeg.
  • Mae llithryddion mewn rhai cwestiynau i'ch galluogi i gofnodi'ch atebion. Gosodwch y llithrydd lle rydych chi'n meddwl ei fod yn gweddu orau i'ch mudiad yn ôl y disgrifiadau a roddir. Os credwch eich bod rhwng dau ddisgrifiad, gallwch symud y llithrydd i safle priodol rhyngddynt.
  • Peidiwch â phoeni gormod am union leoliad y llithrydd. Ni fydd gwthiad bach yn effeithio'n fawr ar bethau - mae meddwl am ystyr y cwestiwn a sut y gallwch wella yn bwysicach o lawer.

Cefnogaeth

Os ydych chi'n cael unrhyw broblemau gyda chofrestru neu ddefnyddio'r Gwiriwr Cryfder MWGCh, ewch i'n Cwestiynau Cyffredin lle gallwch ddod o hyd i atebion i'r holl faterion mwyaf cyffredin. Os na chaiff eich cwestiwn ei ateb yn ein Cwestiynau Cyffredin gallwch gysylltu â'n tîm cymorth gan ddefnyddio'r ffurf we a ddarperir.

Eich data

Fel rhan o agenda tryloywder y llywodraeth, mae'n ofynnol i ni restru'r holl setiau data sy'n eiddo i'r llywodraeth ar data.gov.uk a gweithio o dan y rhagdybiaeth i gyhoeddi'r holl ddata fel data agored lle bo hynny'n bosibl. Trwy gyflwyno gwybodaeth i'r offeryn diagnostig hwn, rydych chi'n cytuno y gallai'r data rydych chi'n ei ddarparu gael ei gyhoeddi i'w ddefnyddio gan drydydd partïon at ddibenion hybu dealltwriaeth o'r sector menter wirfoddol, cymunedol a chymdeithasol, ac ymyriadau i'w gefnogi. Bydd unrhyw ddata a rennir â thrydydd partïon ar ffurf anhysbys a chymerir yr holl gamau angenrheidiol i sicrhau na fydd modd adnabod chi na'ch mudiad.