Glossary

Achos busnes

Cyfres o amcangyfrifon, fel arfer a gynhyrchwyd mewn diwyg adroddiad ynghyd â thestun esboniadol er mwyn i bobl eraill eu hadolygu, sy'n nodi pam mae un cynllun penodol yn gywir ac y dylid ei ddilyn. Fel arfer, bydd yn darparu cyfres o dybiau ynglŷn ag incwm a chostau, yn dangos bod cynllun yn broffidiol, ac yn darparu tystiolaeth bod y ffigurau wedi'u cyfrifo’n gywir a chyda gofal.

Adnoddau Dynol

Staff a gwirfoddolwyr sefydliad yw ei adnoddau pwysicaf gan amlaf. Yn nhermau busnes, mae'r term adnoddau dynol fel arfer yn cyfeirio at ran y sefydliad (gweithwyr proffesiynol, systemau a gweithdrefnau) sy'n edrych ar ôl y bobl sy'n gweithio yno ac sy'n sicrhau eu bod yn cyfrannu'n effeithiol.

Adroddiadau Ariannol

Term eang sy'n cwmpasu'r amryw ffyrdd y mae sefydliadau'n cofnodi hynt eu perfformiad ariannol – i'r Bwrdd, i gyllidwyr/buddsoddwyr, neu i bobl allweddol eraill. Bydd hyn fel arfer yn dilyn fformat penodol a bydd gan fwyaf yn rhifau, efallai gyda graffiau a siartiau.

Allbynnau

Gweithgareddau neu gyflawniadau unigol yw'r rhain a ellir eu rhifo a'u hadrodd. Bydd cyllidwyr eraill yn aml yn disgwyl i'r rhain gael eu hadrodd. Blociau adeiladu ydynt a allai, gyda'i gilydd, ddechrau cyflawni newid. Felly, er enghraifft, gallai’r allbwn fod yn unigolyn yn cyflawni cymhwyster, gallai’r canlyniadau fod yn fwy o hunan-barch a'r unigolyn yn cael swydd, a gallai’r effaith fod yn fuddion tymor hir o ran iechyd, yr economi leol a llai o wario cyhoeddus. 

Amcanion

Dyheadau neu dargedau arbennig mae sefydliad am eu cyflenwi. Gallai'r rhain fod yn gerrig milltir i'w cyflawni yn y tymor byr, neu gallent fod yn dargedau parhaol i'w cyflenwi o flwyddyn i flwyddyn. Fel arfer, bydd gan sefydliad nifer o amcanion ar unrhyw un adeg, ac yn ddelfrydol byddant i gyd yn bethau, gyda'i gilydd, gall helpu i sicrhau bod y sefydliad yn cyflawni ei genhadaeth.

Arweinyddiaeth Busnes

Profiad o redeg neu helpu i redeg busnes, gan wneud a chyfathrebu penderfyniadau allweddol, datblygu a marchnata cynhyrchion neu wasanaethau newydd, a chyflawni proffidioldeb.

Ased

Rhywbeth mae eich sefydliad yn berchen arno – yn aml adeilad neu gyfarpar. Gall hefyd fod yn dir neu'n eitem arall sy'n gysylltiedig â ffocws treftadaeth eich sefydliad.

Banc Cymdeithasol

Banc a sefydlir gyda phwrpas cymdeithasol ac amgylcheddol ac sy'n ystyried goblygiadau cymdeithasol ac amgylcheddol ei fuddsoddiadau.

Benthyciad

Arian a ddarperir gan unigolyn neu sefydliad i unigolyn neu sefydliad arall ar yr amod y bydd yn ei dderbyn yn ôl, fel arfer dros gyfnod penodol o amser yn gyfnewid am ffi (gweler llog).

Buddiolwyr

Y bobl sy'n llesu'n uniongyrchol oherwydd gweithgaredd sefydliad. Gellid cyfeirio atynt mewn ffyrdd eraill, megis defnyddwyr. Mae angen i sefydliad fod yn eglur iawn pwy y mae'n llesu –  a phwy y mae'n ceisio llesu.

Buddsoddwr Cymdeithasol

Sefydliad (neu unigolyn weithiau) sy'n darparu buddsoddiad ariannol i sefydliadau sy'n dilyn amcanion cymdeithasol. Bydd y buddsoddwr cymdeithasol bob tro eisiau gweld y canlyniadau cymdeithasol sy'n deillio o'r arian mae wedi ei fuddsoddi, a bydd fel arfer yn disgwyl rhyw fath o enillion ariannol.

Canlyniadau

Rhain yw'r canlyniadau y gallent, yn y pen draw, ddeillio o weithgaredd penodol. Ni chaent eu cyflawni o reidrwydd ar unwaith ar ôl i weithgaredd orffen a gallent ddod yn ddiweddarach, ond fel arfer y rhain bydd y pethau mae'r gweithgaredd yn ceisio eu cyflawni ar gyfer unigolyn neu gymuned. Felly, gallai’r allbwn fod yn creu grŵp Gwarchod Cymdogaeth, ond gallai’r canlyniadau fod yn ostyngiad mewn troseddau lleol a phobl yn teimlo'n fwy diogel yn eu cartrefi. Gallai’r effaith fwy hirdymor fod yn fuddion i iechyd a lles a'r economi leol a gostyngiad o ran gwariant yr heddlu yn yr ardal.

Canolwyr Ariannol Buddsoddiad Cyhoeddus

Sefydliadau sy'n cysylltu menter â phwrpas cymdeithasol gyda buddsoddiad, naill ai trwy godi arian a chronfeydd buddsoddi neu drwy helpu mentrau i ddod o hyd i fuddsoddiad. 

Capasiti

Mae dwy brif elfen capasiti – galluoedd ac argaeledd amser. Er mwyn cael capasiti staff digonol i gyflenwi prosiect neu ddatblygu un newydd, mae angen i sefydliad fod â phobl â'r ddwy elfen ynghyd.

Capasiti Staff

Mae dwy brif elfen capasiti – galluoedd ac argaeledd amser. Er mwyn cael capasiti staff digonol i gyflenwi prosiect neu ddatblygu un newydd, mae angen i sefydliad fod â phobl â'r ddwy elfen ynghyd.

Cenhadaeth

Cenhadaeth sefydliad yw'r hyn y mae'n ystyried fel ei rôl arbennig ei hun o ran helpu gwireddu'r realiti mae am ei weld. Gall dau sefydliad fod â chenadaethau (rolau) gwahanol iawn ond gallant rannu'r un weledigaeth (yr hyn yr ydym yn gweithio tuag ato). 

Costau Datblygu

Mae costau datblygu yn cyfeirio at y buddsoddiad (arian ac amser) sy'n angenrheidiol er mwyn sefydlu busnes cymaint felly nes y gall fasnachu'n effeithiol.

Cronfeydd Cyfyngedig / Anghyfyngedig

Ffordd o wahanu ac adrodd ar arian ac asedau dan afael elusennau. Cronfeydd cyfyngedig yw'r rheini a roddir gan gyllidwr at bwrpas neilltuol a dim byd arall. Cronfeydd anghyfyngedig yw'r rheini y mae'r sefydliad yn rhydd i'w defnyddio fel ag y dymuna.

Cworwm

Yn cyfeirio at isafswm y bobl sydd angen mynychu a phleidleisio mewn cyfarfod er mwyn i benderfyniadau fod yn ddilys. Gallai hyn fod yn rhif union, neu'n ganran o'r cyfanswm o bobl a gaiff fynychu a phleidleisio, neu gyfuniad o'r ddau (e.e. isafswm o 10% o'r aelodau, neu bum aelod, pa un bynnag sydd fwy).

Cyfalaf Gweithio

Arian sydd ar gael er mwyn helpu sefydliad i redeg ei hun.   Mae angen arian ar bob sefydliad er mwyn ariannu ei weithrediadau. Weithiau gall incwm gyrraedd yn hwyr – ar ôl cyflenwi gwasanaeth, er enghraifft. Felly, nid yw cyfalaf gweithio yn arian i'w wario a pheidio gweld eto (fel grant); arian angenrheidiol yn y tymor byr ydyw, tan i daliad ac arian dros ben gyrraedd i'w ailgyflenwi. 

Cyfrifon Blynyddol

Cyfriflen ffurfiol cyfrifon ariannol sefydliad am gyfnod 12 mis arbennig – gan amlaf o fis Ebrill hyd at fis Mawrth, ond gallai sefydliadau gwahanol fod â blwyddyn ariannol wahanol megis mis Ionawr tan fis Rhagfyr. Fel arfer, bydd cyfrifon blynyddol ar gael i'r cyhoedd ac, yn dibynnu ar faint y sefydliad a pha fath o sefydliad ydyw, bydd disgwyl gosod y cyfrifon ar ddiwyg arbennig, ac fel arfer bydd angen i gyfrifydd cymwys eu harchwilio neu eu cymhwyso.

Cyfrifon Diwedd Blwyddyn

Term arall ar gyfer cyfrifon blynyddol.

Cyfrifon Rheoli

Cyfriflenni perfformiad ariannol a gynhyrchir yn fewnol at bwrpas monitro a phenderfyniadau gan y Bwrdd a'r rheolwyr. Gallai'r rhain fod mewn amrywiaeth o wahanol ddiwygiau, ac mewn rhai achosion gallant ddilyn diwyg tebyg i'r cyfrifon blynyddol, ond mewn achosion eraill – neu'n ogystal – gallant gynnwys siartiau neu graffiau i gyflwyno gwybodaeth mewn ffordd fwy defnyddiol.

Cyfyngedig trwy Warant

Sefydliad sydd heb randdeiliaid.

Cyllidebau

Amcangyfrifon a wnaethpwyd ar ddechrau'r cyfnod, fel arfer dechrau'r flwyddyn ariannol, ar gyfer yr incwm sy'n debygol o gael ei dderbyn a'r gwariant gwirioneddol a ddisgwylir. Dylid cytuno cyllidebau ar y lefel uchaf (Bwrdd) ac yna dylid eu monitro ac adrodd arnynt trwy gydol y cyfnod dan sylw, er mwyn cadarnhau bod popeth ar y trywydd iawn ac, os nad yw, er mwyn deall paham.

Cynllun Busnes

Dogfen sy'n esbonio nodau eich sefydliad a sut byddwch yn eu cyflawni.

Cynllun Marchnata

Mae cynllun marchnata yn gosod yn union sut bydd sefydliad yn mynd wrthi i farchnata ei hun a'i gynlluniau/gwasanaethau dros gyfnod diffiniedig o amser. Bydd yn gwahaniaethu gwahanol ddulliau i wahanol gynulleidfaoedd, ac yn nodi dulliau, adnoddau, cyllidebau ac amserlenni i gyflawni hyn.

Cynnyrch neu Wasanaeth

Mae pob sefydliad yn cyflenwi naill ai cynnyrch neu wasanaeth (neu'r ddau). Os na fedrwch feddwl beth yw eich cynhyrchion neu eich gwasanaethau, mae angen i chi wneud mwy o waith i ddiffinio'r hyn yr ydych yn ei wneud. Er enghraifft, bydd prosiect ailgylchu dodrefn yn cynnig rhai neu bob un o'r canlynol: dodrefn fforddiadwy (cynnyrch), casgliadau (gwasanaeth), ailgylchu a dargyfeirio gwastraff (gwasanaeth), ac efallai cyfleoedd hyfforddi/gwirfoddoli (gwasanaeth).

Cynrychiolaeth gan Ddefnyddwyr neu’r Gymuned Leol

Mae llawer o sefydliadau yn ceisio sicrhau nad ydynt yn cael eu rhedeg AR GYFER y bobl maent yn ceisio eu gwasanaethu neu gefnogi'n unig, ond GAN y bobl hynny, neu o leiaf gan ystyried eu safbwyntiau. Rhan o genhadaeth nifer o sefydliadau cymdeithasol yw sicrhau bod gan bobl fwy o reolaeth dros y pethau sy'n effeithio arnynt, a gall hynny ddechrau gyda'r sefydliad cymdeithasol ei hun. Gellir cyflawni cynrychiolaeth gan ddefnyddwyr – neu gynrychiolaeth gan y gymuned leol os bydd y sefydliad yn bodoli er mwyn bod o fudd i gymdogaeth arbennig – trwy'r Bwrdd a/neu strwythurau penderfynu eraill.

Dadansoddiad Cystadleuwyr

Ymarfer i ddeall PWY yw cystadleuwyr posibl sefydliad, beth yw eu CYNLLUNIAU, a beth yw eu CRYFDERAU A'U GWENDIDAU. Prif bwrpas dadansoddiad cystadleuwyr yw deall beth sydd angen i sefydliad ei wneud er mwyn bod yn gystadleuol – gallai fod angen iddo fynd i'r afael â materion ansawdd, pris, brand, neu gyfuniad o'r tri. 

Dangosyddion Allweddol

Fel arfer ar ffurf rifol (rhifau, canrannau, cyllid), dylai'r rhain fod yn nifer bach o bethau y bydd y rheolwyr a'r Bwrdd yn eu hadolygu dros amser i ddeall pa mor dda mae'r sefydliad yn perfformio o ran ei waith ac o bosibl ei gyllid. Dylai'r rhain fod y pethau pwysicaf ar gyfer y sefydliad o ran ei genhadaeth a'i gynlluniau cyfredol – y pethau a fydd wir yn dangos p'un a yw'r sefydliad yn llwyddo ai peidio.

Datblygu Busnes

Datblygu Strategol

Y broses mae sefydliad yn mynd trwyddi er mwyn gwneud penderfyniadau pwysig ynghylch ei gyfeiriad tymor hir. Dylai datblygu strategol gynnwys penderfyniadau perthynol ar ddatblygu busnes, cynllunio ariannol, adnoddau, ac effaith gymdeithasol.

Dyled

Swm o arian mae un sefydliad yn cael benthyg gan sefydliad arall.

Ecwiti

Rhan mewn menter sydd dan feddiant rhanddeiliaid.

Effaith

Mae effaith yn cyfeirio at y newidiadau tymor hir a sylweddol sy'n digwydd o ganlyniad i gyfres o ddigwyddiadau. Gall allbynnau a chanlyniadau gyfeirio'n aml at newidiadau ar gyfer unigolion, tra bo effaith yn cyfeirio, ar y cyfan, at fuddion cymunedol neu gymdeithasol ehangach yn y tymor hir.

Effaith Gymdeithasol

Effaith gweithgareddau sefydliad ar gymdeithas – fel arfer problem gymdeithasol, grŵp o bobl, neu ardal leol benodol. Cyfeirir ati hefyd fel gwerth cymdeithasol.

Elw

Y gwahaniaeth rhwng y gost o ddarparu cynnyrch neu wasanaeth a'r pris y'i gwerthir. Gwobrwyon (anariannol): rhoddion mae sefydliad yn eu rhoi i dorfgyllidwyr i'w hannog i fuddsoddi yn y fenter.

Elwau

Gallai sefydliadau elusennol ddefnyddio'r term ‘gwargedau’. Mae angen i bob sefydliad fod yn broffidiol.

Enillion Ariannol

Yr elw a gyflawnwyd. Yn aml, fe'i defnyddir mewn perthynas â buddsoddiad, ac wrth gyfeirio at faint o arian bydd buddsoddwr yn ei gael yn ôl a phryd, os bydd yn rhoi arian i mewn i brosiect neu sefydliad.

Galw

Pwysig yw deall y gwahaniaeth rhwng bod ag angen cynnyrch/gwasanaeth a'r galw amdano. Nid yw'r ffaith bod ar bobl angen cynnyrch yn golygu y byddant yn penderfynu ei brynu neu, mewn achos gwasanaeth, ei ddefnyddio. Gall nifer o sefydliadau trydydd sector arddangos bod angen am yr hyn maent yn ei wneud – llawer llai sy'n gallu arddangos galw go iawn. Llai byth sy'n gallu arddangos bod ganddynt y math o alw gan ddarpar gwsmeriaid bydd yn rhoi arian. Ni fydd y defnyddiwr neu fuddiolwr busnes yn y pen draw o reidrwydd yn talu – fel mewn rhai gwasanaethau cyhoeddus, er enghraifft – felly mae 'galw' yma'n cyfeirio at fodolaeth unigolion neu sefydliadau sy’n fodlon talu am y cynnyrch neu'r gwasanaeth a gynigir.

Grant

Taliad i'ch sefydliad nad oes rhaid ei ad-dalu ond y gallai fod ag amodau ynghlwm wrtho.

Grymus

Wedi eich gwahodd i gyfrannu at wneud penderfyniadau, ac wedi eich cyfarparu â gwybodaeth lawn ac eglur, ac unrhyw hyfforddiant a chefnogaeth angenrheidiol, er mwyn gallu cyfrannu'n llawn.

Gweledigaeth

Datganiad sy'n disgrifio sut dylai pethau fod – ar gyfer yr ardal, y grŵp o bobl mae'n ei wasanaethu, neu hyd yn oed y byd! – yw gweledigaeth sefydliad. Dyma beth hoffai'r sefydliad ei weld yn deillio o'i waith a gwaith eraill.

Herio / Cael eich Herio

Mae hyn yn cyfeirio at broses o gwestiynu hanfodol er mwyn sicrhau y caiff datganiadau ffeithiau a ffyrdd o weithredu arfaethedig eu craffu a'u cyfiawnhau mewn modd priodol. Nid yw herio'n awgrymu diffyg ymddiriedaeth ac ni ddylai fod yn gam ymosodol – yn hytrach, mae'n rhan naturiol a hanfodol o'r ffordd y dylai sefydliad wneud penderfyniadau allweddol. Mae sefydliad nad yw’n cael ei herio yn sefydliad gwan.

Llif arian

Gall sefydliadau fod yn broffidiol ond dal i fynd yn brin o arian. Mae llif arian yn fesur (a/neu'n rhagolwg) o'r hyn sy'n digwydd i falans banc sefydliad dros amser. Caiff ei effeithio nid yn unig gan broffidioldeb, ond yn ôl pa mor gyflym mae cwsmeriaid yn talu'r sefydliad (boed yn daliadau cytundeb neu grantiau neu arian parod ar gyfer nwyddau) ac erbyn pryd mae'n rhaid i'r sefydliad dalu ei filiau ei hun.

Llywodraethu

Term eang sy'n golygu'r systemau mae sefydliad yn eu defnyddio i fod yn atebol, i oruchwylio gwaith y sefydliad, ac i wneud penderfyniadau allweddol. Y corff pwysicaf o ran llywodraethu bydd y Bwrdd bob tro, ond gallai fod ffyrdd eraill y gall sefydliad gyflawni'r oruchwyliaeth hon (e.e. is-bwyllgorau, grwpiau llywio, ymgynghori cymunedol).

Mantolen

Amcangyfrif o werth ariannol cyflawn sefydliad ar ddiwrnod arbennig, gan ystyried yr holl asedau, arian, gweddillion cyfrif banc, arian sy'n ddyledus i'r sefydliad, a dyledion presennol a rhai'r dyfodol sy'n ddyledus gan y sefydliad. Yn y cyfrifon blynyddol, rhoddir gwerth y fantolen ar gyfer diwrnod olaf y flwyddyn ariannol.

Marchnad

Yr holl system o brynu a gwerthu sy'n bodoli yn eich maes ar gyfer y cynhyrchion/gwasanaethau rydych yn eu cynnig. Mae'r farchnad yn cynnwys gwahanol fathau o gwsmeriaid, gwahanol fathau o gyflenwyr, a llawer o bartneriaethau a pherthnasau rhyngddynt. Mae hi'n bwysig iawn deall sut mae eich marchnad yn gweithio cystal ag y medrwch. Pwy sy'n prynu beth, o ble, ac ym mha niferoedd?

Marchnata

Y broses o rannu eich neges gyda'ch cwsmeriaid/cynulleidfa.  Mae angen i'r broses hon ddechrau trwy ddeall pwy yw eich cwsmeriaid/cynulleidfaoedd targed, boed yn grŵp unigol neu'n grŵp eang gydag anghenion gwahanol. Yna, bydd y broses yn cadarnhau pa negeseuon hoffech eu cyfleu i wahanol fathau o gwsmeriaid/cynulleidfaoedd, a pha ddulliau byddwch yn ystyried eu defnyddio i gyflawni hyn.

Menter Gymdeithasol

Busnes gydag amcanion cymdeithasol yn bennaf y mae ei arian dros ben yn cael ei ailfuddsoddi gan fwyaf ar gyfer y pwrpas hynny yn y busnes neu yn y gymuned, yn hytrach na chanolbwyntio ar yr angen i fwyhau elw ar gyfer rhanddeiliaid a pherchnogion.

Mesur Effaith

Mae effaith yn anodd iawn ei mesur, gan ei bod yn ymwneud â newid tymor hir i grwpiau llawn o bobl neu gymdeithas. Mae hi'n anodd deall, hyd yn oed, beth sydd wir wedi newid, ac yn anoddach byth gwybod beth sydd wedi achosi'r newid hynny a faint sydd oherwydd gwaith un sefydliad penodol. Nid oes un ffordd o fesur effaith sy'n digwydd neu wedi digwydd, ond bydd rhan fwyaf y dulliau yn cynnwys, mewn rhyw fodd neu'i gilydd, cymharu data cyn ac ar ôl a siarad gydag ystod o wahanol bobl i ddeall yn well beth mae pobl yn meddwl oedd gwerth tymor hir gweithgaredd.

Model busnes

Yr hyn mae eich sefydliad yn ei wneud, yr hyn mae'n ei gynhyrchu neu gyflenwi, a phwy sy'n talu am y cynnyrch neu'r gwasanaeth hwnnw.

Parodrwydd i Fuddsoddi

Sefydliad sydd â'r systemau, gweithdrefnau a model busnes i fedru denu buddsoddiad.

Perfformiad Cymdeithasol

Disgrifiad o gyflawniadau sefydliad o ran cyflenwi ei genhadaeth.  Gallai adroddiad o berfformiad cymdeithasol sefydliad gynnwys cymysgedd o'r allbynnau, canlyniadau a'r effaith mae'n eu cyflawni.

Prif Swyddog Gweithredol

Prif Swyddog Gweithredol, yr aelod o staff uchaf sy'n derbyn cyflog mewn sefydliad. Weithiau caiff ei fyrhau i Brif Swyddog. Bydd llawer o sefydliadau'n peidio â defnyddio'r teitl hwn, gan ffafrio teitlau eraill megis Rheolwr neu Gyfarwyddwr.

Proffidiol

Y gwahaniaeth rhwng y gost o ddarparu cynnyrch neu wasanaeth a'r pris y'i gwerthir. Gwobrwyon (anariannol): rhoddion mae sefydliad yn eu rhoi i dorfgyllidwyr i'w hannog i fuddsoddi yn y fenter.

Proffidioldeb

Y gwahaniaeth rhwng y gost o ddarparu cynnyrch neu wasanaeth a'r pris y'i gwerthir. Gwobrwyon (anariannol): rhoddion mae sefydliad yn eu rhoi i dorfgyllidwyr i'w hannog i fuddsoddi yn y fenter.

Pwynt Gwerthu Unigryw

Mae hyn yn cyfeirio at elfen allweddol eich cynnyrch/gwasanaeth, neu sut y caiff ei chyflenwi, a ddarperir yn unig gan eich sefydliad ac nid gan unrhyw gystadleuydd arall. Dyna pam fydd cwsmer yn dewis prynu gennych chi yn hytrach na rhywun arall. Gallai eich pwynt gwerthu unigryw fod ynghlwm â phris, gwerth, ansawdd, gofal cwsmer, neu ystod o bethau eraill.

Rhanddeiliaid

Yr holl bobl a'r sefydliadau sy'n bwysig i'ch sefydliad eich hun – naill ai oherwydd eu bod yn elwa oherwydd eich sefydliad, neu oherwydd gallant gael effaith fawr ar eich sefydliad, neu oherwydd bod cyswllt pwysig arall rhyngoch.

Rheolaethau Ariannol

Y systemau, gweithdrefnau a goruchwyliaeth sydd ar waith gan sefydliad er mwyn sicrhau bod arian yn cael ei dderbyn, ei gofnodi a'i wario mewn ffyrdd priodol y cytunwyd arnynt. Mae rheolaethau da yn sicrhau na fedr neb wario arian neu wneud penderfyniadau allweddol ynghylch arian heb awdurdod priodol.

Rhoddion

Rhodd y gall eich menter ei gwario i gyflawni ei hamcanion cymdeithasol sut bynnag y bydd yn dewis gwneud.

Risg

Y potensial o golli buddsoddiad wedi'i fesur yn erbyn y potensial o wneud elw ar y buddsoddiad a/neu gyflawni newid cymdeithasol cadarnhaol trwy'r buddsoddiad hwnnw. 
Sefydliadau Cymdeithasol

Sefydliadau sy'n annibynnol (h.y. nad ydynt yn sefydliadau sector cyhoeddus) ac sy'n dilyn amcanion cymdeithasol. Mae'r rhain yn cynnwys elusennau, mentrau cymdeithasol, mentrau cydweithredol, sefydliadau cymunedol a mathau eraill o sefydliadau tebyg.

Segmentu Cwsmeriaid

Mae angen i unrhyw fusnes ddeall pwy yw ei gwsmeriaid a beth maent yn ei ddymuno. Mae busnesau da yn deall nad yw eu cwsmeriaid i gyd yr un fath, eu bod yn dymuno gwahanol bethau, ac y gallai fod angen defnyddio gwahanol ddulliau wrth farchnata a gwerthu. Mae segmentu cwsmeriaid yn cyfeirio at y broses o ddeall a mapio gwahanol fathau o gwsmeriaid.

Strategaeth / Cynlluniau Strategol

Datganiad o gynlluniau tymor byr, canol a hir y sefydliad, gan ddangos sut y bydd yn datblygu dros amser er mwyn ceisio cyflenwi ei genhadaeth.

Systemau Ariannol

Y systemau ymarferol mae sefydliad yn eu defnyddio i reoli ei arian. Gallai'r rhain amrywio o systemau taenlen syml i feddalwedd cyfrifeg ddrud a chymhleth ar gyfer sefydliadau mwy. Dylai'r system fod yn gywir ar gyfer maint y sefydliad a byddai hyn o bosibl yn gorfod newid dros amser wrth i sefydliad dyfu. Os nad yw system arbennig yn rheoli arian yn dda neu'n methu â darparu'r wybodaeth (adroddiadau) sydd angen ar bobl y tu fewn neu'r tu allan i'r sefydliad, yna mae'n amser newid y system.

Talu yn ôl Canlyniadau

Cytundeb, fel arfer gyda'r sector cyhoeddus, ble telir menter yn seiliedig ar yr amod bod y gwasanaeth a gyflenwir yn cwrdd â chyfres o dargedau.

Ymchwil i’r Farchnad

Gwaith penodol a gwblheir er mwyn deall eich marchnad. Gall hyn fod yn eithaf eang, i ddeall eich holl farchnad, neu'n eithaf cul o ran cynnyrch neu wasanaeth newydd rydych wrthi'n cynllunio. Gall helpu i chi ddeall ble yn y cynllun cyflawn fe'ch gosodir – ydych chi'n bremiwm neu ydych chi'n cynnig y gwerth gorau? Beth yw maint cyflawn eich rhan o'r farchnad? Gall hefyd ddarganfod p'un a fydd cwsmeriaid wir eisiau prynu'r hyn yr ydych yn ei gynnig, a beth fyddent yn fodlon ei dalu.

 Chworwm

Yn cyfeirio at isafswm y bobl sydd angen mynychu a phleidleisio mewn cyfarfod er mwyn i benderfyniadau fod yn ddilys. Gallai hyn fod yn rhif union, neu'n ganran o'r cyfanswm o bobl a gaiff fynychu a phleidleisio, neu gyfuniad o'r ddau (e.e. isafswm o 10% o'r aelodau, neu bum aelod, pa un bynnag sydd fwy).