Croeso i'r Adran Gymorth

Gallwch ddod o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin sy'n codi ar gyfer defnyddwyr y Gwirydd Cryfder yma. Os ydych yn cael anhawster, edrychwch ar ein rhestr o gwestiynau cyffredin i weld p'un a yw'ch cwestiwn wedi cael ei ateb yma.

Os nad yw ein hadran Cwestiynau Cyffredin wedi datrys eich problem neu os oes arnoch angen cysylltu â ni ar ôl eu darllen, gallwch ddefnyddio ein ffurflen we i gysylltu'n uniongyrchol. Bydd hyn yn agor tocyn cymorth ar ein system a byddwn yn cysylltu â chi o fewn 24 awr.

  • Problemau cofrestru
    Rwyf yn ceisio cofrestru am gyfrif ar y safle fel fy mod yn gallu defnyddio'r Gwirydd Cryfder, ond nid wyf wedi derbyn yr e-bost cofrestru.

    Weithiau gall e-byst awtomatig o wefannau anghyfarwydd gael eu nodi fel spam neu bost sothach gan rai rhaglenni neu ddarparwyr e-bost. Dylech wirio eich ffolder spam neu sothach yn y lle cyntaf. Os byddwch yn canfod yr e-bost croeso yno, gallwch nodi nad yw'n neges spam, a dylech fedru parhau yn ôl yr arfer drwy glicio ar y ddolen yn yr e-bost.

    Os na fyddwch yn canfod yr e-bost yn eich ffolder spam/sothach, mae'n bosibl eich bod wedi cofnodi eich cyfeiriad e-bost yn anghywir wrth gofrestru. Gallwch wirio hyn trwy geisio cofrestru ar y safle eto, gyda'r un cyfeiriad e-bost. Os byddwch yn llwyddiannus, yna mae'n fwy na thebyg mai'r broblem oedd camsillafiad gyda'ch cyfeiriad e-bost. Yn olaf, mae'n bosibl bod yr e-bost yn syml iawn wedi'i oedi. Anfonir e-byst ar unwaith o'n system ond o bryd i'w gilydd gallant gael eu harafu "yn is ar yr afon" gan y system derbyn e-byst. Os na fyddwch wedi derbyn eich e-bost croeso a dilysu ar ôl cwpl o oriau, cysylltwch â'r adran gymorth a byddwn yn actifadu eich cyfrif.

  • Sut ydw i'n gosod fy nghyfrinair?

    Ar ôl mewngofnodi gan ddefnyddio eich dolen mewngofnodi un-tro a ddaeth atoch drwy'r e-bost, cewch eich cyfeirio'n syth at dudalen lle gallwch osod eich cyfrinair eich hun. Bydd rhaid i chi ei gyflwyno ddwywaith – unwaith ym mhob blwch cyfrinair a ddarperir.

    Os na fyddwch yn gosod eich cyfrinair yma, ni fyddwch yn medru mewngofnodi i'r safle ar eich ymweliad nesaf. Pe bai hyn yn digwydd, gallwch ddefnyddio'r ffurflen ailosod cyfrinair i'w ailosod drwy'r e-bost

  • Ble mae fy e-bost ailosod cyfrinair?
    Collais fy nghyfrinair a cheisiais ddefnyddio'r ffurflen "e-bostio cyfrinair newydd", ond ni dderbyniais i ddim byd. Beth ddylwn i ei wneud?

    Gallwch ailosod eich cyfrinair drwy'r e-bost os ydych wedi'i anghofio.

    Weithiau gall e-byst awtomatig o wefannau anghyfarwydd gael eu nodi fel spam neu bost sothach gan rai rhaglenni neu ddarparwyr e-bost. Dylech wirio eich ffolder spam neu sothach yn y lle cyntaf. Os byddwch yn canfod yr e-bost croeso yno, gallwch nodi nad yw'n neges spam, a dylech fedru parhau yn ôl yr arfer drwy glicio ar y ddolen yn yr e-bost.

    Os na fyddwch yn canfod yr e-bost yn eich ffolder spam/sothach, mae'n bosibl eich bod wedi cofnodi eich cyfeiriad e-bost yn anghywir wrth gofrestru.

    Yn olaf, mae'n bosibl bod yr e-bost yn syml iawn wedi'i oedi. Anfonir e-byst ar unwaith o'n system ond o bryd i'w gilydd gallant gael eu harafu "yn is ar yr afon" gan y system derbyn e-byst. Os na fyddwch wedi derbyn eich e-bost ailosod cyfrinair ar ôl cwpl o oriau, cysylltwch â'r adran gymorth a byddwn yn actifadu eich cyfrif.

  • Help! Rwyf wedi cael fy nghloi allan o'r safle!
    Rwyf wedi mewnbynnu fy nghyfrinair yn anghywir ambell waith ac rwyf yn derbyn neges fy mod wedi cael fy rhwystro rhag cael mynediad at y safle. Beth ddylwn i ei wneud?

    Os byddwch yn mewnbynnu cyfrinair anghywir nifer o weithiau yn olynol, gall y gweinydd gwe ystyried hwn yn ymosodiad "nerth bôn braich" ar eich cyfrif – hynny yw, fel cynnig gan rywun i gael mynediad anawdurdodedig at y safle gan ddefnyddio eich hunaniaeth. Bydd hyn yn golygu y caiff eich cyfeiriad IP ei wahardd dros dro o'r gweinydd. A dweud y gwir, yr unig reswm yr ydych yn gweld y cwestiwn hwn yw eich bod, mwy na thebyg, wedi cael mynediad at y safle trwy gyfrifiadur gwahanol.

    Gallwch naill ai aros 24 awr i'ch cyfrif gael ei ddadflocio'n awtomatig, neu gallwch gysylltu â ni er mwyn inni ddadflocio eich cyfeiriad IP â llaw (fodd bynnag, nid ydym yn gwarantu y byddwn yn gynt!). Os byddwch yn cysylltu â ni, peidiwch ag anghofio anfon eich cyfeiriad IP atom. Os nad ydych yn sicr sut i ddod o hyd i hyn, gallwch fynd i http://whatsmyip.org – y cyfeiriad IP yw'r rhif mawr ar ben y dudalen, yn y ffurf xxx.xxx.xxx.xxx

     

  • Sut ydw i'n dechrau gyda'r Gwirydd Cryfder?

    Cliciwch ar y ddolen "Gwirydd Cryfder" yn y brif ddewislen, neu cliciwch ar y ddolen yn eich dangosfwrdd. Dylech gael eich cyfeirio'n syth at dudalen gyntaf y gwirydd cryfder.

  • Am faint bydd e'n para?

    Bydd cwblhau'r gwirydd cryfder yn ei gyfanrwydd yn para 45 munud ar y mwyaf os oes gennych eich holl wybodaeth o fewn cyrraedd. Os nad oes gennych eich holl wybodaeth fusnes ac ariannol wrth law, gallwch gadw eich adroddiad ar unrhyw adeg yn ystod y broses a dychwelyd ato'n ddiweddarach.

  • Pa fath o adroddiad dylwn i ei ddisgwyl yn y diwedd?

    Bydd eich adroddiad yn cynnwys ffigyrau canrannol cyflawn o sut y mae eich sefydliad yn sgorio ar draws nifer o feysydd allweddol. Mae'r rhain i fod yn arwyddion cyffredinol o'r meysydd lle mae eich sefydliad yn gwneud yn dda neu'n wael. Nid ydym yn bwriadu i hyn achosi ysbryd cystadleuol; yn hytrach y bwriad yw i'ch helpu i adnabod meysydd problemus yn y busnes. Mae yna bum maes allweddol cyflawn, ac 15 dangosydd mwy penodol, a chaiff eich atebion eu sgorio yn ôl y rhain.

    Rydym wedi creu adroddiad enghreifftiol i helpu sefydliadau i asesu p'un a fyddai defnyddio'r Gwirydd Cryfder o fudd iddynt. Gallwch lawrlwytho fersiwn barod i'w argraffu yma.

  • Beth os byddaf yn gwneud camgymeriad?

    Mae adroddiad y Gwirydd Cryfder Treftadaeth Gydnerth ar eich cyfer chi – gallwch ddychwelyd ato ar unrhyw bryd i newid gwerthoedd, newid eich meddwl am unrhyw un o'r atebion, neu hyd yn oed arbrofi gyda gwahanol atebion er mwyn i chi ddeall pa effaith byddai gwelliannau mewn maes penodol yn eu cael ar eich busnes. Nid oes atebion "anghywir" – bwriedir i hyn fod yn offeryn defnyddiol ar gyfer busnesau Treftadaeth Gydnerth bach i ganolig, gan ganolbwyntio ar holl agweddau'r busnes a'ch helpu i ddeall ble y gallwch wella.

  • Rwyf yn cael trafferth cadw'r Gwirydd Cryfder.

    Pan fyddwch yn cadw ar unrhyw adeg yn y Gwirydd Cryfder, dylai ddangos eich adroddiad i chi. Os nad yw hyn yn digwydd, gall fod oherwydd bod gwall dilysu rhywle yn y data rydych wedi'i gyflwyno. Er enghraifft, gallwch fod wedi cyflwyno nod annilys mewn maes rhifol.

    Dylech weld neges ddilysu ar ddechrau'r ffurflen, yn nodi unrhyw feysydd sydd angen eich sylw cyn i chi fedru cadw'r ffurflen. Os na welwch hyn, ond rydych dal yn methu â gweld eich adroddiad ar ôl cadw, gallwch gysylltu â'n tîm cymorth. 

    Rydym yn argymell y dylid cadw unrhyw ddata sy'n cymryd amser hir i'w gyflwyno (atebion testun hir, er enghraifft) yn lleol ar eich cyfrifiadur fel bod gennych gopi a gallwch ei ail-lanlwytho i'r Gwirydd Cryfder pe bai angen.

  • Rydw i'n cael problemau technegol gyda'r Gwirydd Cryfder.

    Os nad yw'r Gwirydd Cryfder yn gweithio i chi – er enghraifft, os nad yw'r llithryddion yn symud, neu os nad yw'r bar llywio ar ben y dudalen yn gwneud dim byd – mae ambell beth gallwch chi ei wirio.

    Os ydych yn defnyddio Windows, ydych chi'n defnyddio porwr modern, cyfoes? Mae'r Gwirydd Cryfder yn cefnogi Internet Explorer 9 ac uwch, Edge, Firefox, Chrome, Safari ac Opera.

    1. Ydy JavaScript wedi'i analluogi? Mae angen JavaScript ar y Gwirydd Cryfder er mwyn iddo weithio'n gywir. Galluogir JavaScript yn awtomatig ar gyfer yr holl brif borwyr, felly os nad yw wedi'i alluogi, rydych yn siŵr o fod yn ymwybodol o hyn.
    2. Ydych chi'n defnyddio dyfais symudol? Dylai'r Gwirydd Cryfder weithio ar Android ac iOS (iPad neu iPhone) ac mae'n gytûn â dyfeisiau sgrin gyffwrdd. Ni fydd yn gweithio ar BlackBerry ac nid yw wedi cael ei brofi ar fathau eraill o ddyfeisiau symudol. Os ydych yn cael trafferthion ar ddyfais symudol benodol, rhowch wybod i ni gan ddefnyddio'r ffurflen gymorth.
  • Alla i argraffu fy adroddiad neu ei lawrlwytho?

    Rydym wedi darparu fersiwn PDF argraffadwy o'ch adroddiad y gallwch ei gadw'n lleol neu argraffu'n uniongyrchol o'ch porwr. Pan fyddwch yn edrych ar eich adroddiad ar-lein, edrychwch am y botwm sy'n dweud "Fersiwn PDF argraffadwy"/"Printer-friendly PDF Version" a chliciwch arno.

    Yn dibynnu ar osodiadau eich porwr, byddwch naill ai'n agor y PDF yn uniongyrchol neu cewch yr opsiwn i'w lawrlwytho. Yn y naill achos a'r llall, dyluniwyd y fersiwn hon o'r adroddiad i argraffu'n hawdd. Os cewch unrhyw broblemau yn ei agor, rhowch wybod i ni.

A helpodd hyn? Ydych chi'n dal i fod mewn trafferth? Cysylltwch â ni gan ddefnyddio'r ffurflen gymorth isod.

Ffurflen gymorth